Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5 - Hybrid
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mai 2023
Amser:
12.00 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13330
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Lara Snowdon, Uned Atal Trais Dr Jen Daffin, Psychologists for Social Change Yasmin Khan, National Adviser for Violence against women, gender-based violence, domestic abuse and sexual violence Johanna Robinson, Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Oliver Townsend |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd gyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates ar gyfer eitemau 1 a 2. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 1
Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Lara Snowdon, Arweinydd Iechyd y Cyhoedd - Uned Atal Trais.
3 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 2
Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol – Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol a chan Oliver Townsend, Pennaeth Partneriaethau ac Ymarfer - Platfform
4 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 3
Clywodd yr Aelodau tystiolaeth gan Johanna Robinson ac Yasmin Khan, Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
5 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip at Stephen Crabb AS ynglŷn â'r system fudd-daliadau yng Nghymru
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus: ystyried yr adroddiad drafft
Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.